Estyn is the office of Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales and inspects quality and standards in education and training providers in Wales.
Here, they detail why the School Sport Survey is an important tool for the future of sport at schools in Wales.
If
you’ve ever won a medal in any activity and at any level you will remember the immense
feeling of pride and excitement it conjures. At 2012, TeamGB and ParalympicsGB excelled particularly in such diverse events as cycling, equestrianism, rowing, and
sailing as well as track and field athletics.
Leading
the way with gold medals for Wales were Geraint Thomas in the men’s Team
Pursuit, Tom James in the men’s Rowing Four team and Jade Jones in Taekwondo. But
what does an Olympic and Paralympic medal really mean? Well, it’s a mark of excellence and an
indication to the rest of the world and to yourself as to just how good you
are. However, your performance on the
day you win a medal is not a one-off occurrence and does not happen by chance. It is the result of many months and years of
dedication and commitment. Many of our
athletes will have achieved personal best performances and broken various records time and time again during
training sessions and in competitions building up to the Olympic finals. These people already know that they are the best
because they have been measuring, and striving to improve, their performance
for weeks, months and years. And these
athletes work with often large teams of experts – including skills coaches,
fitness trainers, nutritionists, sports psychologists and managers – to
evaluate and monitor constantly their performance.
Self-evaluation
in schools should be no different. On
the day that Estyn inspectors visit, schools should already know how good they
are. But crucial to effective
self-evaluation, whether it’s looking at standards and provision for literacy,
numeracy or physical education and sport, is using the right information and
data. That’s why Estyn recognises the School Sports Survey as such a potentially
valuable source of information for self-evaluation.
Effective
self-evaluation helps schools to assess their strengths but also to identify
their priorities for development. The Olympic athlete and any elite sportsman or
sportswoman knows the areas of performance he/she needs to improve and plans
his/her training to achieve these specific targets. Similarly, by using the range of information
and data available to them, schools can plan how to strengthen provision and
improve the standards pupils achieve. Gathering pupils’ views, using the findings of
external reviews and available benchmarking data are crucial to effective
self-evaluation.
Schools
can find out more about using the School Sport Survey to support
self-evaluation in Estyn’s self-evaluation manuals. These documents are
designed for schools to support their self-evaluation and improvement planning
arrangements. The Estyn website also showcases best practice through case
studies and thematic reports.
So,
with a strong support team, effective self-evaluation and of course, dedication
and hard work, there could be a gold medal inside us all!
***
Os ydych chi wedi ennill medal mewn unrhyw weithgaredd
erioed ar unrhyw lefel, byddwch yn cofio’r teimlad mawr o falchder a chyffro
rwy’n siŵr. Yng Ngemau Olympaidd 2012, enillodd TeamGB 65 medal aur, arian neu
efydd, gan ragori mewn campau mor amrywiol â beicio, marchogaeth, rhwyfo a
hwylio, yn ogystal ag athletau trac a chae.
Yn arwain y ffordd gyda medalau aur i Gymru roedd Geraint
Thomas yn Nhîm Gweithgaredd y Dynion, Tom James yn nhîm Pedwarawd Rhwyfo’r
dynion a Jade Jones mewn Taekwondo. Ond beth mae medal Olympaidd wir yn ei
olygu? Wel, mae’n arwydd o ragoriaeth ac mae’n dangos i weddill y byd ac i chi
eich hun pa mor dda ydych chi. Er hynny, nid digwyddiad unigryw yw eich
perfformiad chi ar y diwrnod pryd rydych yn ennill eich medal, ac nid yw’n
digwydd ar siawns. Mae’n ganlyniad i fisoedd a blynyddoedd lawer o ymrwymiad ac
ymroddiad. Bydd llawer o’n hathletwyr ni wedi gwneud perfformiadau gorau
personol ac wedi torri sawl record dro ar ôl tro yn ystod y sesiynau ymarfer ac
mewn cystadlaethau sy’n arwain at y rowndiau terfynol Olympaidd. Mae’r bobl hyn
eisoes yn gwybod mai nhw yw’r gorau oherwydd maent wedi bod yn mesur ac yn
ceisio gwella eu perfformiadau ers wythnosau, misoedd a blynyddoedd. Mae’r
athletwyr hyn yn gweithio gyda thimau mawr o arbenigwyr yn aml – gan gynnwys
hyfforddwyr sgiliau, hyfforddwyr ffitrwydd, maethegwyr, seicolegwyr chwaraeon a
rheolwyr – i werthuso a monitro eu perfformiad drwy’r amser.
Ni ddylai hunanarfarnu mewn ysgolion fod yn wahanol. Ar
ddiwrnod ymweliad arolygwyr Estyn, dylai’r ysgolion wybod eisoes pa mor dda
ydyn nhw. Ond un elfen allweddol o hunanarfarnu effeithiol, boed yn edrych ar y
safonau a’r ddarpariaeth ar gyfer llythrennedd, rhifedd neu addysg gorfforol a
chwaraeon, yw defnyddio’r wybodaeth a’r data cywir. Dyma pam mae Estyn yn
cydnabod yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol fel ffynhonnell wybodaeth werthfawr bosib
ar gyfer hunanarfarnu.
Mae hunanarfarnu effeithiol yn helpu ysgolion i asesu eu
cryfderau a hefyd datgan eu blaenoriaethau ar gyfer datblygu. Mae’r athletwr
Olympaidd, a phob athletwr elitaidd arall, yn gwybod pa feysydd perfformio y
mae’n rhaid iddo ef/hi eu gwella ac mae’n cynllunio ei hyfforddiant ef/hi i
gyrraedd y targedau penodol hyn. Yn yr un modd, drwy ddefnyddio’r ystod o
wybodaeth a data sydd ar gael iddynt, gall ysgolion gynllunio i gryfhau eu
darpariaeth a gwella safonau’r disgyblion. Mae casglu safbwyntiau’r disgyblion
gan ddefnyddio darganfyddiadau adolygiadau allanol a data meincnodi sydd ar
gael yn allweddol i hunanarfanu effeithiol.
Gall ysgolion gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r
Arolwg ar Chwaraeon Ysgol i gefnogi hunanarfarnu yn llawlyfrau hunanarfarnu
Estyn. Nod y dogfennau hyn yw helpu ysgolion i gefnogi eu trefniadau
hunanarfarnu a chynllunio gwelliannau. Hefyd, mae gwefan Estyn yn dangos yr
arferion gorau drwy gyfrwng astudiaethau achos ac adroddiadau thematig.
Felly, gyda thîm cefnogi cadarn, hunanarfarnu effeithiol
ac, wrth gwrs, ymrwymiad a gwaith caled, efallai fod medal aur o fewn cyrraedd
pob un ohonom!!




